SL(5)453 – Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu’r terfyn cyflymder uchaf o 50 milltir yr awr ar gerbytffordd tua’r gorllewin traffordd yr M4 yn Rogiet yn Sir Fynwy sy’n ymestyn o bwynt 800 metr i’r dwyrain o linell ganol trosbont Station Road hyd at bwynt 752 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Station Road.  O ganlyniad, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys i’r gerbytffordd a enwyd pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.

Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (O.S. 2010/1512 (W.138) yn cael eu dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

•     Nid yw'n eglur pam na luniwyd asesiad effaith reoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn gan fod y cyfeiriad yn y Nodyn Esboniadol a'r Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at yr “effaith ar gostau busnes” ond nid yw'n cyfeirio at unrhyw “gostau neu fuddion tebygol” eraill.  Fel rheol, mae Gweinidogion Cymru yn cyfeirio at eu penderfyniad yng ngoleuni'r Cod Ymarfer ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ac yn benodol yr eithriadau o dan y Cod.

Pa eithriad o dan y Cod sy'n berthnasol i'r penderfyniad i beidio â llunio asesiad effaith reoleiddiol?

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

•     Mae'r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys rhai anghysondebau a gwallau, sef:

o   Ym mharagraff 1, mae cyfeiriad at “the general 70 mph speed limit imposed on motorways by the Motorway Traffic (Speed Limit) Regulations 1974”.  Er bod y sefyllfa'n gywir i'r graddau y mae'n ymwneud â Rheoliadau 1974, mae'n anghyson â'r Nodyn Esboniadol, sy'n cyfeirio'n fwy cywir at y “national speed limit” (“terfyn cyflymder cenedlaethol”), a thrwy hynny gydnabod effaith y cyfyngiadau cyflymder sy'n berthnasol i ddosbarthiadau penodol o gerbydau yn unol â Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

o   Nid oes cyfeiriad at y pŵer galluogi o dan adran 17(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 ym mharagraff 3, er y dibynnir ar adran 17(3) ac y cyfeirir at yr adran honno yn y rhaglith i'r Rheoliadau.

o   Mae paragraff 4 yn cyfeirio at “regulation 2 of the Regulations”, ond dylent gyfeirio at reoliad 3 o Reoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010.  Mae'r cyfeiriad at y Rheoliadau trwy gydol y Memorandwm Esboniadol yn cyfeirio at “Revocation Regulations 2019” felly nid yw'n gyson.

o   Mae paragraff 5 yn cyfeirio at beryglu diogelwch ar y ffyrdd, ond nid yw'n cynnwys cyfeiriad at ddim effaith andwyol ar ansawdd aer pe bai'r Rheoliadau hyn yn cael eu dirymu, y gellid bod wedi eu disgwyl o ystyried y rhesymau dros y dirymiad a roddir o dan baragraff 7.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid yw Asesiadau Effaith Rheoleiddiol wedi eu cwblhau yn y gorffennol wrth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 17 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 sy’n gosod terfynau cyflymder ar ddarnau o ffyrdd arbennig. Y rheswm am hynny yw bod rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, ar y cyfan, am resymau diogelwch ar y briffordd ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.

Effaith Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 oedd gostwng y terfyn cyflymder wrth ddynesu at ardal gonsesiwn Man Casglu Tollau Ail Groesfan Hafren (Pont Tywysog Cymru yn awr) o’r terfyn cyflymder cenedlaethol ar gyfer traffyrdd i 50 milltir yr awr, ar sail diogelwch. Gosodwyd y terfyn cyflymder am fod angen arafu traffig wrth ddynesu at y Man Casglu Tollau. Ar ôl diddymu’r tollau ac yn sgil hynny ddymchwel y bythod tollau yn ardal gonsesiwn y Man Casglu Tollau, nid oedd rheswm am y terfyn cyflymder 50 milltir yr awr a osodwyd gan Reoliadau 2010. Mae Rheoliadau Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man Casglu Tollau Rogiet, Sir Fynwy) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2010 (Dirymu) 2019, sy’n dirymu Rheoliadau 2010, yn cydnabod hynny, ac o ganlyniad bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys i’r darnau o ffordd o dan sylw.

O ran Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth yn benodol, yr eithriad perthnasol i’r gofyniad i gynnal asesiad yw bod y rheoliadau o dan sylw yn gwneud diwygiad technegol neu ffeithiol i ddiweddaru rheoliadau nad ydynt yn cael unrhyw effaith sylweddol ar bolisi.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

9 Hydref 2019